local
'Cant o geisiadau am swyddi, ond dim llwyddiant' - yr her sy'n wynebu pobl ifanc
Ar drothwy cyhoeddi adroddiad ar les pobl ifanc nifer yn rhannu eu profiad o geisio cael swydd.

Mae Ffion wedi gwneud cais am 100 o swyddi ers mis Mehefin ond heb lwyddo i ddod o hyd i waith
Mae Ffion Johns, 24, o Lanelli, wedi gwneud cais am 100 o swyddi ers mis Mehefin, ond er gwaethaf ei hymdrechion, mae'n dal heb ddod o hyd i waith.
Mae ei phrofiad yn adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu nifer o bobl ifanc yng Nghymru wrth geisio dod o hyd i waith.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 14.6% o bobl ifanc yng Nghymru rhwng 16 a 24 oed yn perthyn i'r categori NEET, sy'n golygu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi adolygiad Milburn yn fuan, a fydd yn cynnig argymhellion ar gyfer newidiadau i'r system les ar gyfer pobl 25 oed.
Yn ôl Ffion, mae'n "colli gobaith", gan nad yw cyflogwyr yn cydnabod ei cheisiadau y rhan fwyaf o'r amser.
Ar ôl astudio addysg yn y brifysgol, doedd Ffion ddim yn disgwyl y byddai chwilio am swydd yn gymaint o her, ac o'r 100 o geisiadau mae hi wedi'u cyflwyno, dim ond tri chyfweliad mae wedi'u cael.
"Dwi'n ddiflas ar hyn o bryd," meddai.
"Fi'n trio a thrio, fi'n trio gwneud pethau gwahanol, fel pan mae swyddi'n edrych am elfennau eraill, ond fi heb gael unrhyw lwc o gwbl.
"Dwi'n gwybod bod hi'n broblem i nifer o bobl ifanc eraill, ond mae dal yn demotivating," meddai.
Un sefydliad sy'n ceisio mynd i'r afael â'r her yw'r Urdd, sy'n cynnig prentisiaethau i helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chael profiad ymarferol yn y gweithle.
Mae Catrin Davis yn gyfarwyddwr prentisiaethau a hyfforddiant gyda'r Urdd
Yn ôl Catrin Davis, cyfarwyddwr prentisiaethau a hyfforddiant gyda'r Urdd, mae cynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn "hollbwysig".
"Mae yna dros 1,000 o unigolion wedi dod drwy'r adran prentisiaethau ers i ni gychwyn," meddai Catrin.
"Rydyn ni'n gwybod bod yna ddim digon o gyfleoedd, a ni'n gweld gyda'r niferoedd sy'n datgan diddordeb mewn prentisiaethau i gymharu â'r rheini sydd wedyn yn ymgymryd â phrentisiaeth, ac mae gwacter mawr rhwng y ddau.
"Ni'n gwybod mai prentisiaeth yw'r cam iawn i lot fawr o bobl ifanc, lle nad yw mynd i'r coleg neu'r brifysgol, neu fynd mewn i waith heb hyfforddiant yn gam cywir."
I'r rhai sy'n cymryd rhan yn y prentisiaethau, mae'r cyfle i ennill profiad yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Dywed Erin fod y prentisiaeth o fudd i bob rhan o'i bywyd
Mae Erin Moriarty, sy'n 20 oed, wedi bod yn brentis gyda'r Urdd ers tair blynedd.
"Fi wedi datblygu llawer ers gadael yr ysgol a dechrau'r brentisiaeth," meddai.
"Fi di cael cyfleoedd fel siarad â llawer o bobl newydd a chwrdd â chwmnïau sy'n gweithio gyda'r Urdd.
"Mae jyst yn brofiad da i fi wrth i fi dyfu, a falle aros yn yr Urdd i wneud swydd lawn amser ar ôl i fi orffen y brentisiaeth, ond mae e i gyd yn buddio bywyd fi, nid jyst yn y byd gwaith," meddai.
Dywedodd Morgan Harvey bod cwblhau prentisiaeth wedi "agor fyny cyfleoedd"
Mae Morgan Harvey, 26, yn gweithio gyda'r Urdd fel swyddog nofio cymunedol ar ôl cyflawni prentisiaeth.
"Pan wnes i orffen ysgol, o'n i ddim yn siŵr iawn beth i'w wneud, ond roedd gwneud y brentisiaeth wedi agor fyny cyfleoedd i fi i fynd yn syth i swydd, cael profiadau ac ennill cyflogaeth," meddai Morgan.
Mae adroddiad Milburn hefyd yn cynnig cyfle i edrych ar sut y gellir gwella'r sefyllfa i bobl ifanc, drwy ganolbwyntio ar y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael mynediad at gyfleoedd a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Ond yn ôl Ffion, mae angen mwy o gefnogaeth uniongyrchol ar bobl ifanc.
"Fi'n credu bod angen mwy o coaching ar bobl ifanc.
"Pan o'n i yn y coleg, o'n nhw'n dweud taw'r brifysgol oedd yr un peth bydd yn bendant yn sicrhau swydd yn y dyfodol.
"Ond dydy hynny ddim yn wir, a dydy e ddim wedi helpu fi fel o'n nhw'n dweud, felly fi'n credu bod angen mwy o gyfleoedd i wneud pethau gwahanol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook , dolen allanol , X , dolen allanol , Instagram , dolen allanol neu TikTok , dolen allanol .
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk , dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
'Rhaid buddsoddi' mewn sgiliau pobl ifanc cyn 'colli cenhedlaeth i ddiweithdra'
Dull newydd o helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith yng Ngwynedd
Ehangu gwasanaeth heddlu i atal pobl ifanc rhag mynd i 'fyd tywyll iawn'
More images







Credits
Author: Aimee Thomas
Source: BBC News



