local
'Fi'n un o'r ychydig sydd wedi gweld Cymru'n curo Seland Newydd ddwywaith!'
Arbenigwyr a chefnogwyr yn ymateb wedi buddugoliaeth hanesyddol tîm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.

Roedd Huw Llywelyn Davies, yn dyst i fuddugoliaeth 1953
Roedd buddugoliaeth Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn yn "eiliad na fyddwn wedi meddwl y byddwn yn ei gweld eto", meddai Huw Llywelyn Davies, oedd hefyd yn dyst i fuddugoliaeth 1953.
"Dwi ddim yn credu bod neb mewn gwirionedd wedi rhagweld beth oedd yn mynd i ddigwydd.
"I fi'n bersonol, dwi'n teimlo'n freintiedig iawn. Fi'n un o'r ychydig, mae'n siŵr gen i, sy'n gallu dweud nawr eu bod nhw wedi gweld Cymru yn curo Seland Newydd ddwywaith.
"Ddydd Sadwrn oedd y tro cyntaf erioed i ni sgorio pum cais yn erbyn y Crysau Duon.
"Doedd neb yn disgwyl y bydden ni'n gallu gwrthsefyll cryfder a nerth corfforol Seland Newydd, ond roedd yr amddiffyn yn yr ail hanner yn gwbl, gwbl arwrol."
"Ac os ga i ddweud, o'n i yno ym 1953, ac roedd enwau bois fel y capten Bleddyn Williams, Ken Jones, Clem Thomas a Cliff Morgan, ac yn y blaen - mae'r enwau yna wedi bod gyda ni ers 1953.
"Mae criw newydd o Gymru, o dan arweiniad dau Gymro Cymraeg balch dros ben, Dewi Lake a Jac Morgan, wedi cael eu lle nhw hefyd yn y llyfrau hanes."
Gan fod y canlyniad yn un mor "hanesyddol", mae S4C wedi cyhoeddi y bydd y gêm yn cael ei hail-ddarlledu ar y sianel nos Sul.
Huw Llywelyn Davies yn hel atgofion am fuddugoliaeth Cymru'n erbyn Seland Newydd yn 1953 cyn y gêm
Yn ôl y gohebydd rygbi Gareth Charles, roedd perfformiad Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn yn "arwyddocaol iawn, yn annisgwyl ac yn gwbl arwrol".
Wrth siarad â Cymru Fyw wedi'r gêm dywedodd bod y fuddugoliaeth o 35-28 ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yn "un o'r perfformiadau gorau erioed gan Gymru".
"O'n i'm yn meddwl y bydden ni'n gweld Cymru yn maeddu y crysau duon yn fy oes i.
"Fi wedi gweld nhw'n chwarae gymaint o weithiau - naill ai yn Seland Newydd neu yng Nghymru.
"Mae'r canlyniad yn gwbl anhygoel. Ro'dd yr amddiffyn yn anhygoel. Mae'n amhosib tanlinellu cymaint o berfformiad oedd e."
Roedd perfformiad Cymru yn ysgubol, medd prif hyfforddwr y tîm wrth i'r crysau cochion ennill yn erbyn Seland Newydd am y tro cyntaf ers 73 o flynyddoedd.
"O ystyried yr ymdrech mae'r chwaraewyr a'r staff wedi'i wneud dros y 15 mis diwethaf, maen nhw wedi cael yr hyn roedden nhw'n ei haeddu," meddai Steve Tandy ar ddiwedd y gêm.
"Roedd perfformiad y bechgyn yn anhygoel. Buom yn siarad am ymosod, adeiladu'r perfformiad a bod yn ddewr. Roedd y bechgyn yn ddewr – efallai'n rhy ddewr ar adegau cyn yr egwyl – ond roedd ganddyn nhw'r bwriad clir o fynd amdani.
"A dweud y gwir, pan oedd Seland Newydd yn dod yn ôl i'r gêm tua adeg yr egwyl, byddai wedi bod yn hawdd amau eich hun.
"Ond roedd y ffordd ymosododd y bechgyn – a'r cyfraniad gan y rhai ar y fainc – yn drawiadol.
"Mae'r bechgyn wedi creu hanes. Mae'n rhaid iddyn nhw ddathlu a mwynhau'r eiliad honno. Rydym am barhau i berfformio'n dda ond mae'n rhaid i ni ddathlu'r eiliadau hyn."
Roedd 55,152 o gefnogwyr yn Stadiwm Principality yn mwynhau buddugoliaeth gyntaf Cymru yn erbyn y crysau duon ers 19 Rhagfyr 1953.
13-8 oedd y sgôr y diwrnod hwnnw - y capten oedd Bleddyn Williams a Sid Judd a Ken Jones a sgoriodd y ddau gais.
"Beth oedd yn syfrdanol oedd bod y tîm yma wedi cael eu beirniadu dros y misoedd diwethaf, dros y tymor diwethaf falle, am nad oedden nhw'n ddigon corfforol, a bod goreuon y byd yn llawer rhy gryf iddyn nhw," meddai'r sylwebydd rygbi Cennydd Davies.
"Wel, fe ddangosodd y rhai hynny ddydd Sadwrn gymaint o ddycnwch, gymaint o asgwrn cefn, yn cadw Seland Newydd mas, cymal ar ôl cymal ar ôl cymal, ar eu llinell eu hunain.
"Hefyd, yn yr hanner cyntaf a deng munud cyntaf yr ail hanner, fe ddangoson nhw eu bod nhw'n gallu sgorio ceisiadau. Pump ohonyn nhw yn erbyn un o dimau gorau'r byd.
"Felly, pob clod iddyn nhw, ac allan nhw ddweud eu bod nhw wedi gwneud Cymru yn genedl falch iawn."
Tony Owen a Darren Williams o Glwb Rygbi Caernarfon
Roedd yna ddathlu ymhlith cefnogwyr ar draws Cymru.
Yng Nghlwb Rygbi Caernarfon dywedodd Keith Parry: "Dwi wedi bod yn disgwyl am hyn ers 73 mlynedd. O'n i yn yr ysgol yng Nghaernarfon pan enillodd Cymru ddiwethaf yn erbyn Seland Newydd."
"Canlyniad anhygoel. Anghrediniaeth. Roedd yr amddiffyn a'r ddisgyblaeth yn yr ail hanner yn arbennig. Gobeithio allwn ni adeiladu ar hyn nawr ar gyfer y Chwe Gwlad," meddai David Jones, Cadeirydd Clwb Rygbi Caernarfon.
Roedd yna orfoledd yng Nghaernarfon wedi'r fuddugoliaeth hanesyddol - dyma Keith Parry, Siwan Mair a David Jones, Cadeirydd Clwb Rygbi Caernarfon
"Briliant. Dwim yn meddwl bod neb yn disgwyl o. Amazing. Roedd hi'n braf gweld yr hogia' ifanc yn datblygu. Gei di ddim gwell na ennill am y tro cynta' ers 1953," meddai Tony Owen.
"Dwim yn dod adre i Gaernarfon yn aml ond dwi mor falch bo fi wedi dod i'r clwb rygbi heddiw, meddai Darren Williams.
"Roedd hi'n gêm ardderchog."
"Roedd yr awyrgylch yn anhygoel yma. Canlyniad gwerth chweil," meddai Siwan Mair.
"Mae'n mynd i godi hyder. Mae curo tîm fel Seland Newydd yn goblyn o gamp. Siawns bydd yr hyder yn uchel yn erbyn Awstralia wythnos nesaf."
Roedd y ddau chwaraewr ifanc yma yn falch iawn o'r canlyniad
Roedd yna falchder hefyd ymhlith chwaraewyr ifanc Caernarfon.
"Ro'n i'n meddwl bod y gêm yn dda. Dwi'n chwarae fel prop. Fe allan nhw guro Awstralia."
"Roedd 'na decisions da iawn, cario da, pasio da. 'Nes i weiddi pan nathon nhw ennill. Dan ni'n rili falch dros Gymru."
Buddugoliaeth hanesyddol i Gymru yn erbyn Seland Newydd
Crysau Gareth Edwards; gobeithio torri record byd
Rygbi Caerdydd... 150 mlynedd o hanes
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook , dolen allanol , X , dolen allanol , Instagram , dolen allanol neu TikTok , dolen allanol .
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk , dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
More images






Credits
Author: Gwen Aeron, Carwyn Jones
Source: BBC News


